Senedd Cymru / Welsh Parliament

Grŵp Trawsbleidiol – Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth

 

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023

AELODAETH

Cadeirydd: Peredur Owen Griffiths AS

Jayne Bryant AS

Jane Dodds AS

John Griffiths AS

Altaf Hussain AS

 

Ysgrifenyddiaeth:

Crispin Watkins (Cynorthwyydd Personol Gweithredol i Brif Swyddog Gweithredol a Bwrdd Kaleidoscope, Swyddog Ymgyrchu a Chyfathrebu) ar ran y Prosiect Kaleidoscope

 

Aelodau allanol:

Ar hyn o bryd mae rhestr gylchredeg y Grŵp Trawsbleidiol yn cynnwys 243 o wahoddedigion o bob rhan o wasanaethau cyffuriau ac alcohol Cymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r trydydd sector, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol y GIG, comisiynwyr a chynrychiolwyr byrddau cynllunio gwasanaethau, cynghorau lleol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS), Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, gwasanaethau heddlu, gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau tai, elusennau ar gyfer plant a menywod, gwasanaethau iechyd meddwl ac adfer, a gweithwyr cymheiriaid.

 

CYFARFODYDD

Cyfarfu'r grŵp trawsbleidiol dair gwaith yn ystod 2023:

17 Ionawr 2023 – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfod arferol – Etholwyd Peredur Owen Griffiths AS yn Gadeirydd.  Etholwyd Kaleidoscope i ddarparu gwasanaethau Ysgrifenyddol.

Diben pedwerydd cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y Senedd oedd archwilio’r heriau a wynebir gan bobl â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, a hynny yng nghyd-destun trefniadau’r system Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r cyfleoedd sy’n bodoli o ran hyrwyddo rhagor o weithgarwch i leihau niwed o fewn terfynau’r system honno.

Siaradwyr a phynciau:

Cyflwynodd Dr Rob Jones o Ysgol y Gyfraith Caerdydd ddadansoddiad academaidd a oedd yn gofyn y cwestiwn a ganlyn: A yw pobl â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau yn cael eu dal ar ymyl bylchog y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru?  Nododd fod Cymru’n unigryw, yn yr ystyr mai Cymru yw’r unig wlad cyfraith gyffredin yn y byd sydd â’i Senedd a’i Llywodraeth ei hun, ond nid ei system gyfiawnder ei hun (Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2012).  Mae’r sefyllfa hon yn arwain at gymhlethdodau, heriau o ran sicrhau polisi cydgysylltiedig, a diffyg eglurder ynghylch atebolrwydd.  Ym maes camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth, mae’n creu tensiwn rhwng y Llywodraeth ddatganoledig sy’n trin y defnydd o sylweddau fel mater iechyd, a pholisi San Steffan ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, sy’n trin y peth fel mater cyfiawnder troseddol. Tynnodd sylw at adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019, a ddaeth i’r “casgliad unfrydol nad yw'r system bresennol yn diwallu anghenion pobl Cymru” (Comisiwn Thomas, 2019, Tudalen 8). Mewn ymateb, cynigiwyd bod cyfrifoldebau cyfiawnder yn cael eu datganoli er mwyn:

• ei gwneud yn bosibl i gysoni polisi cyfiawnder a gwariant ar gyfiawnder yn briodol â pholisïau cymdeithasol, iechyd, addysg a datblygu economaidd yng Nghymru, er mwyn ategu atebion hirdymor ymarferol;

• sicrhau bod cyfiawnder wrth wraidd y llywodraeth; [a]

• galluogi atebolrwydd cliriach a gwell.

 

Yna, cafwyd trafodaeth ar bob bwrdd ynghylch cyfiawnder troseddol a chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Aelodau o’r Senedd. Roedd y trafodaethau hyn yn ymdrin â’r pynciau a ganlyn:

• Y dyhead bod y Senedd yn annog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid i ddosbarthu llythyrau cysur, a hynny er mwyn hwyluso dulliau gwell o leihau niwed, megis y defnydd o ystafelloedd defnyddio cyffuriau

• Y ffaith y dylid canmol Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid sydd â'r weledigaeth i wneud hynny

• Y ffaith y dylai’r Senedd gydnabod y gwahaniaeth rhwng lleihau niwed ac ymatal, ac y dylai gefnogi dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

• Pwysigrwydd gwasanaethau cydgysylltiedig, ynghyd â darparu cyllid aml-asiantaeth strwythurol dros y tymor hir

• Pwysigrwydd parhau i drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd, yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar y defnydd o dechnegau dargyfeirio gan yr heddlu

• Y posibilrwydd y gallai darparu naloxone mewn carchardai ac yn y gwasanaeth prawf achub bywydau

• Pwysigrwydd ymgyrchu mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol i fynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â'r stigma sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth

• Pwysigrwydd ymgyrchu i newid y canllawiau dedfrydu a ddefnyddir gan ynadon

• Y ffaith y dylai’r Senedd wneud mwy o ymdrech i fynd i’r afael â'r trawma a'r achosion sylfaenol sy'n arwain at sefyllfaoedd lle mae pobl yn datblygu problemau o ran camddefnyddio sylweddau

14 Mehefin 2023

Diben y pumed cyfarfod oedd archwilio'r heriau unigryw a wynebir gan bobl sy'n defnyddio cyffuriau ar gyfer gwella perfformiad neu ddelwedd, a hefyd yr is-set o'r gymuned LHDT+ sy'n cymryd rhan mewn Cemryw (Chemsex).

Siaradwyr a phynciau:

Siaradodd Richard Amos o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent am y llwybrau sy’n arwain at ddefnyddio cyffuriau sy'n gwella perfformiad a delwedd (IPEDs), gan gynnwys dysmorffia'r corff a phwysau chwaraeon cystadleuol.  Soniodd am ei brofiad byw o fod yn gystadleuwr chwaraeon a oedd yn perfformio ar lefel uchel ac a gafodd ei anafu, fel modd o gyfleu’r temtasiwn a'r pwysau cymdeithasol i ddefnyddio cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd er mwyn cyflymu adferiad o ystod o anafiadau, gan gynnwys (yn ei achos ef) difrod i’w ligament croesffurf a’r angen am drawsblannu mêr esgyrn a bôn-gelloedd.

Disgrifiodd Richard yr heriau sy'n wynebu defnyddwyr cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd o ran cyrchu rhai ‘dilys’ a reolir yn glinigol ac sydd i’w defnyddio gan bobl drwy ddosbarthu chwech set o becynnau gwag a gofyn i bobl asesu a ydynt yn ddilys neu'n ffug. Roedd un set o becynnau a gymeradwywyd yn glinigol, ond roedd gan bob un ohonynt amrywiaeth o farciau i nodi eu bod yn gyfreithlon, hologramau, ysgrifen braille, taflenni cyngor meddygol, codau QR i wefannau iechyd ac ati, a oedd yn dangos y graddau eithafol y bydd gangiau troseddol yn mynd iddynt.  Mae'r cymhlethdodau hyn yn rhoi pobl sy’n defnyddio cyffuriau sy’n gwella perfformiad a delwedd mewn perygl o niwed eithafol.

Wrth gloi, soniodd Richard am yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghylch y ffaith bod lefelau testosteron yn gostwng ymhlith dynion wrth iddynt heneiddio, a’r cysylltiad rhwng hyn â phroblemau iechyd meddwl, hunan-niweidio a hunanladdiad. Galwodd ar y gwasanaeth iechyd i gynnig mwy o brofion testosteron a chymorth meddygol ar gyfer dynion canol oed a dynion hŷn.

Siaradodd Jack Wilkinson o Wasanaeth Prosiect Cyffuriau PRISM Bryste am weithio gyda'r gymuned LHDT+ yn gyffredinol, a'r bobl sy'n cymryd rhan mewn cemryw yn benodol.

Sefydlwyd Gwasanaeth Prosiect Cyffuriau PRISM Bryste yn 2016 i fynd i’r afael â’r rhwystrau penodol y mae’r boblogaeth LHDT+ yn eu hwynebu.  Mae oedolion LHDT+ yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffuriau nag oedolion heterorywiol (3 – 4 gwaith yn fwy tebygol).  Mae tystiolaeth glir yn dangos bod rhwystrau systemig i aelodau o’r gymuned LHDT+ o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd, gan gynnwys stigma, gwahaniaethu a throseddoli. 

Mae croestoriad rhwng y gymuned LHDT+, defnyddio sylweddau, ac iechyd meddwl a rhywiol. Felly, mae rhai themâu cyffredin wedi dod i’r amlwg, yn ogystal â chymhlethdodau.  Soniodd Jack am yr heriau unigryw sy'n codi wrth geisio cael mynediad at y gymuned hon a darparu cymorth. Soniodd hefyd am y risgiau unigryw y mae pobl yn y gymuned yn eu hwynebu wrth gymryd coctels o gyffuriau, gan gynnwys crisialau meth, GBH a GBL, dros gyfnodau hir a dwys.

 

25 Hydref 2023

Yn ystod chweched cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol, canolbwyntiodd y grŵp yn llwyr ar gyffur cyfreithlon am y tro cyntaf.  Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ddwywaith yn uwch yng Nghymru na nifer yr holl farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau  anghyfreithlon, ac mae llawer ohonynt yn cynnwys alcohol fel ffactor.

Siaradwyr a phynciau:

Mae Wulf Livingston yn Athro mewn Astudiaethau Alcohol yng Nghyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Cadeirydd Canolfan Alcohol a Chyffuriau Eraill Cymru.

Gofynnodd Wulf pam ein bod yn ei chael hi'n anodd cyflawni polisïau effeithiol ym maes alcohol.  Yng Nghymru, mae rhai meysydd polisi o dan ddylanwad San Steffan, sydd ag un o’r dulliau lleiaf rhagweithiol o leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.  Mae gan rai cwmnïau alcohol drosiant sy’n fwy na GDP rhai o’r gwledydd lleiaf yn Ewrop.  Nid oes unrhyw bleidleisiau i’w hennill yn y dystiolaeth sy’n gysylltiedig â statws cyfreithiol cyffuriau. Fodd bynnag, mae pleidleisiau i’w hennill mewn pris peint, a gallai alcohol gael ei wleidyddoli yn ystod yr etholiadau nesaf ar gyfer San Steffan.  Nododd Wulf mai Senedd y DU, o blith holl leoliadau’r wlad, sy’n cynnig y cymhorthdal mwyaf ar gyfer prynu alcohol.  Ac mae pwysau cymdeithasol trwm i yfed yn gyffredinol.  Gan fod alcohol yn gyffur cyfreithlon sy’n ganolog i rannau o’r economi, y diwydiant twristiaeth a’n gwead cymdeithasol, mae llunwyr polisi yn wynebu her yn yr ystyr bod alcohol yn bwysig i’r economi, ond nid ydynt am weld pobl yn gor-yfed.

Cyflwynodd Wulf yr achos dros ddull gweithredu cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar fusnesau bach lleol cynaliadwy yn hytrach na chwmnïau byd-eang, rhyngwladol, yn ogystal â hyrwyddo manwerthu lleol cyfrifol a datganoli rheolaeth dros economi’r nos i gymunedau.  Ochr yn ochr â hyn, mae angen annog cyfrifoldeb personol, ac mae angen hyrwyddo Bil iechyd cyhoeddus cynhwysfawr sy’n cynnwys gwariant uwch ar wasanaethau adfer.

Mae Liam Cherry yn gwnselydd ac yn seicotherapydd sy’n gweithio ym Mae’r Gorllewin (Abertawe a PT), gan weithio’n agos â phobl sy’n ei chael hi’n anodd iawn rheoli eu dibyniaeth.

Dechreuodd Liam drwy ganolbwyntio ar y term 'cyd-ddigwydd', gan nodi bod y term 'diagnosis deuol' yn cael ei ddefnyddio weithiau hefyd.  O bryd i’w gilydd, mae sefyllfa lle mae person yn defnyddio sylweddau ac yn dioddef problem iechyd meddwl yn cael ei thrin fel sefyllfa ag iddi ddau fater ar wahân sydd angen dau ddatrysiad ar wahân.  Gofynnir y cwestiwn a ganlyn: a oes angen mynd i'r afael ag un mater cyn y gellir mynd i'r afael â'r llall?  Mae hyn yn deillio o gamddealltwriaeth ynghylch natur a tharddiad dibyniaeth.

Mae 85 y cant o bobl sy'n defnyddio sylweddau gan gynnwys alcohol wedi profi trawma. Mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi profi 4 MATH o drawma neu fwy (4 MATH, nid 4 PROFIAD).  Gofynnodd Liam pam fod alcohol yn 'ddatrysiad'. Yn ogystal, tynnodd sylw at y defnydd o alcohol i hunan-feddyginiaethu a goresgyn y profiadau trawmatig hyn.  Mae cydnabod, yng nghwmni defnyddiwr gwasanaethau, y ffaith bod alcohol yn gallu ymddangos fel ffordd dda o ddelio â thrawma o'r fath yn gam cyntaf gwerthfawr o ran annog defnyddiwr gwasanaethau i fyfyrio ar ei sefyllfa a dechrau archwilio'r trawma sy'n sail i'r defnydd o sylweddau.  Soniodd Liam am bwysigrwydd darparu fframwaith cymdeithasol a rhwydwaith cymorth y gall y defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad atynt a dibynnu arnynt. Dywedodd fod y fframwaith cymdeithasol hwn yn aml yn absennol yn ystod y cyfnod ym mywydau defnyddwyr gwasanaethau pan wnaethant brofi trawma am y tro cyntaf, a phan ddechreuodd y defnydd o sylweddau ddod yn broblem.   

_______________________________________________________

 

DATGANIAD ARIANNOL

Nid oedd unrhyw incwm, cronfeydd na gwariant dros y cyfnod a gwmpesir yn yr adroddiad blynyddol hwn.

Prynwyd te a choffi ar gyfer y rhai a oedd yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp Trawsbleidiol ym mis Ionawr 2023 gan Peredur Owen Griffiths AS, a hynny am gost o £85.20 (delir y derbynebau gan yr Ysgrifenyddiaeth). 

_______________________________________________________

Crispin Watkins

Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol ar  Gamddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth

Ebrill 2024